Unrhywun yn cofio un o’r bandiau merched cynnar? Un aelod enwog o’r band Sidan fu’n hyfforddi Eden yn y dechrau. Neb llai na Caryl Parry Jones.
I weld Eden wrthi’n ffilmio’r noson, ac i ddilyn y newyddion diweddaraf, ewch draw i’w tudalen Twitter.
Os fuoch chi’n edmygu dawnsio Eden, byddwch yn siŵr o fwynhau symudiadau band poblogaidd arall o’r 90au, Mega (maen nhw’n “ffynci meganomeg”)
Mae Eden, grŵp pop blaenllaw y 90au – symudwch yn nes yma – wedi ailymuno i greu raglen arbennig, gan nodi 15 mlynedd ers y sengl anfarwol Paid â bod ofn.
Mewn rhaglen arbennig wedi ei chynhyrchu gan gwmni teledu Boomerang yng Nghaerdydd, bydd Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon yn perfformio naw cân yn fyw, gydag ambell sgetsh gomedi yn y canol.
Bydd Noson yn Nghwmni Eden yn cael ei ddarlledu ar S4C cyn y Nadolig, ac mae’r grŵp wedi bod yn gweithio gyda choreograffwr dros yr wythnosau diwethaf, i berffeithio’r symudiadau.
“Mae wedi bod yn gyfle gwych i ailfyw’r cyfnod, gyda’r nostalgia’n llifo,” dywedodd Emma Walford, sydd bellach yn gyflwynwraig teledu. “Nid stopio wnaethon ni, jyst cael hoe fach (a phlant ar yr un pryd!)”